Doedd hi ddim yn bwrw glaw ddoe, felly aethon ni am dro yn y goedwig. Roedd hi'n eitha' prysur am ganol y gaeaf. Falle' roedd y bobl eraill yn gwneud yr un peth fel ni, cymryd y cyfle tra roedd y tywydd yn sych?
Roedd ychydig o haul, hyd yn oed. Ac ar y ffordd i lawr i'r maes parcio, roedd defaid yn y coed. A mwsogl. Llawer o fwsogl.
